Geiriad y ddeiseb: Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i wrthwynebu cau Llety Gwarchod Kennard Court ar gyfer pobl hŷn. Gorfodwyd y trigolion i adael yr adeilad a dod o hyd i rywle arall i fyw, am y rheswm ffug bod asbestos ynddo. Nid yw trigolion y Llety wedi cael cefnogaeth i’w hachos gan neb, ac maent bron â rhoi’r ffidil yn y to. Mae angen i ni eu cefnogi a’u cynorthwyo i aros yn eu cartref. Mae rhai trigolion wedi cael eu symud eisoes, ac mae bygythiad i droi’r rhai sy’n weddill o’u cartref os na fyddant yn symud. Mae Bron Afon yn targedu pobl agored i niwed, hŷn, sy’n 70 oed a throsodd. Nid yw hyn yn deg, a rhaid rhoi terfyn arno. Mae’n anodd meddwl am y trigolion, yn y cyfnod hwn yn eu bywydau, yn dioddef y straen a’r pryder o orfod cael eu hail-gartrefu. Llofnodwch y ddeiseb hon.
Gwybodaeth ategol: Mae’r rhan fwyaf o’r trigolion hyn, ynghyd â’u cyndeidiau, wedi byw ym Mlaenafon ar hyd eu hoes. Maent wedi cyfrannu at Flaenafon a’r gymuned. MAE ANGEN EIN CEFNOGAETH NI ARNYNT.’
Cyflwynwyd
y ddeiseb gan: Georgina
James
Ystyriwyd
y ddeiseb am y tro cyntaf: 17
Gorffennaf 2012
Nifer y
llofnodion: 19